Cyflwyno Serol Print mewn parti lansio arbennig
25/11/2019
Cyflwynwyd enw, brand a gwefan newydd Serol Print mewn parti lansio mawreddog yng Ngwesty Bluebell yng Nghastell-nedd ar 20 Tachwedd, wrth i nifer mawr o gwsmeriaid a ffrindiau’r cwmni a phwysigion lleol ddod ynghyd.
Mae’r cwmni 30 mlwydd oed, sef Gwasg Morgannwg/Glamorgan Press gynt, wedi ail-frandio’n ddiweddar – cam a wnaed er mwyn adlewyrchu dechrau cyfnod newydd i’r busnes ac anghenion newidiol ei gleientiaid.
Cyflwynodd Buddug Llyr, rheolwr datblygu busnes Serol Print, y brand newydd yn y parti lansio a rhoi cyflwyniad byr i’r mynychwyr. Esboniodd yr ethos y tu ôl i frand newydd y cwmni a dangos rhai o’r nodweddion sydd wedi’u gwella ar y wefan newydd.
Wrth siarad yn y parti lansio, meddai Buddug Llyr, rheolwr datblygu busnes Serol Print:
“Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ni drwy fynychu’r parti lansio hwn. Dyma ddechrau cyfnod newydd i’r cwmni, sy’n cael ei adlewyrchu yn ein brand newydd bywiog a’n gwefan wych newydd. Mae hi’n fodern, yn llawer haws ei defnyddio ac yn broffesiynol – mae hyd yn oed yn bosibl i gwsmeriaid siopa ar-lein arni.
“Mae hi’n ddwyieithog hefyd. Mae’r Gymraeg yn dal i fod yn hynod bwysig inni fel cwmni. Byddwn yn parhau i gynnig ein gwasanaethau i gyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, fel y gallwn ni fasnachu â chleientiaid a busnesau Cymraeg eu hiaith.
“I ni, mae’r lansio hefyd yn dynodi dechrau newydd cyffrous o ran technoleg argraffu. Wrth i anghenion ein cwsmeriaid newid, rydyn ni wedi buddsoddi’n drwm yn yr offer diweddaraf er mwyn sicrhau ein bod ni’n bodloni eu gofynion. Mae ein brand a’n hethos newydd yn adlewyrchu’r ffaith ein bod ni’n croesawu oes newydd ddigidol.”