Dyma Serol Print – cyfnod newydd i hen gwmni
22/10/2019
Pleser mawr yw lansio ein henw a’n hunaniaeth brand newydd, sef Serol Print. Gwasg Morgannwg/Glamorgan Press oedd ein hen enw, ac mae’r ail-frandio newydd hwn yn dynodi dechrau cyfnod newydd addawol i’n busnes argraffu.
Mae’r ail-frandio hwn yn digwydd ar yr un pryd â chyfnod newydd cyffrous i dechnoleg argraffu. Gan fod anghenion ein cwsmeriaid wedi newid, rydyn ni wedi buddsoddi’n drwm yn yr offer diweddaraf i wneud yn siŵr ein bod yn bodloni eu gofynion. Mae ein brand a’n hethos newydd yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn cychwyn ar oes ddigidol newydd.
Mae’r lliwiau llachar sydd yn y logo yn adlewyrchu’r pedwar lliw sylfaenol sy’n cael eu defnyddio mewn argraffu lliw: Gwyrddlas (Cyan), Magenta, Melyn a Du. Ar yr un pryd, mae ein henw newydd yn adlewyrchu ein gwreiddiau yng Nghymru a’n harbenigedd mewn dylunio ac argraffu sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg. Ystyr ‘serol’ yw ‘yn perthyn i’r sêr, ar ffurf seren’ (sy’n esbonio’r sêr yn ein logo). Mae hefyd yn golygu ‘serennog’ – sy’n cyfeirio at y gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid yr ydyn ni’n ymfalchïo ynddo.
Mae’r Gymraeg yn eithriadol bwysig inni yn Serol, ac adlewyrchir hyn drwy ein gwefan newydd. Bydd y Gymraeg yn cael ei throsglwyddo drwy’r broses ail-frandio ac yn parhau’n agwedd greiddiol i’r cwmni.
Rydyn ni’n arbenigo mewn argraffu lithograffig a digidol a hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau argraffu eraill, o bapur ysgrifennu swyddfa i galendrau. Yn ystod y blynyddoedd diweddar, rydyn ni wedi buddsoddi mewn Gwasg Ddigidol ‘Canon ImagePress’ a Gwasg Labeli Ddigidol ‘New Solution N1’. Mae’r offer rhagorol hyn wedi golygu y gallwn ni sicrhau y byddwn yn cyflawni anghenion ein cwsmeriaid yn brydlon ac yn effeithiol.
Yn ôl Buddug Llŷr, rheolwr datblygu busnes Serol Print:
“Yna yn Serol Print, rydyn ni’n gyffrous iawn am ein brand newydd ac rydyn ni’n dechrau ar gyfnod newydd i’r busnes. Rydyn ni wedi buddsoddi’n drwm mewn technoleg newydd yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac rydyn ni awyddus i gyfuno ein harbenigedd â chynnig gwasanaeth gwych i gwsmeriaid ac ymrwymiad i ragoriaeth.
“Mae’r Gymraeg yn dal i fod mor bwysig inni ag erioed. Mae ein gwefan newydd yn cynnwys y Gymraeg lle nad oedd yr hen wefan yn gwneud hynny. Ro’n ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig gwneud y newid pwysig hwn er mwyn dangos ein bod ni’n deall anghenion ein cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith. Rydyn ni’n ymfalchïo ein bod ni’n gallu cyfathrebu’n rhugl â chleientiaid a busnesau Cymraeg eu hiaith. Gyda’n gwefan well sy’n hawdd ei defnyddio, rydyn ni’n gyffrous iawn am ddyfodol Serol.”